Celtiaid Ynysig

Celtiaid Ynysig
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl Edit this on Wikidata
Prydain ac Iwerddon ar ddechrau hyd at oddeutu 500 OC, cyn sefydlu teyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid.      Brythoniaid.      Pictiaid.      Goedeliaid.

Celtiaid brodorol o Ynysoedd Prydain a Llydaw oedd y Celtiaid Ynysig, pobl a siaradai yn yr ieithoedd Celtaidd Ynysol, sef y Gelteg Ynysig. Defnyddir y term yn bennaf am bobloedd Celtaidd yr ynysoedd hyd at yr Oesoedd Canol cynnar, gan gwmpasu Oes Haearn Iwerddon a Phrydain, Prydain Rufeinig a Phrydain is-Rufeinig. Roeddent yn cynnwys y Brythoniaid, y Pictiaid a'r Goedeliaid.

Un o'r prif nodweddion cyffredin rhwng y Celtiaid hyn oedd eu hiaith, a ymledodd ar hyd a lled yr ynysoedd yn ystod yr Oes Efydd neu'r Oes Haearn gynnar. Maent yn cynnwys dau brif grŵp: ieithoedd Brythonaidd yn y dwyrain a ieithoedd Goedelaidd yn y gorllewin. Er bod cofnodion o ieithoedd Celtaidd Cyfandirol o'r 6g CC, dim ond yn gynnar yn y mileniwm cyntaf OC y ceir tystiolaeth o'r ieithoedd Celtaidd Ynysol. Dilynodd y Celtiaid Ynysol grefydd Geltaidd Hynafol a oruchwylid gan y dderwyddon. Roedd gan rai o lwythau de Prydain gysylltiadau cryf â thir mawr Ewrop, yn enwedig Gâl a Belgica, ac roeddent yn bathu eu darnau arian eu hunain.

Gorchfygodd yr Ymerodraeth Rufeinig y rhan fwyaf o Ynysoedd Prydain yn y 1g OC, a daeth peth diwylliant Brythonaidd-Rufeinig i'r amlwg yn y de-ddwyrain. Parhaodd y Cymbriaid a'r Pictiaid yn y gogledd a'r Goedeliaid (Gwyddelod) y tu allan i'r ymerodraeth. Yn ystod diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain yn y 5g, roedd esiamplau o aneddiadau Eingl-Sacsonaidd i'w cael yn nwyrain a de Prydain, a rhywfaint o anheddiadau Gwyddelig ar yr arfordir gorllewinol, gan gynnwys Ynys Môn. Yn ystod y cyfnod hwn, ymfudodd rhai o Frythoniaid i Armorica, a elwir heddiw yn 'Llydaw', lle daethant i ddominyddu'r wlad. Yn y cyfamser, daeth llawer o ogledd Ynysoedd Prydain (yr Alban) yn Aeleg ei hiaith.

Erbyn y 10g, roedd y Celtiaid Ynysol wedi esblygu'n ddau grwp ieithyddol:


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search